Croeso i Barc Ynni Esgair Ddu

Mae GALILEO empower yn datblygu cynigion ar gyfer Parc Ynni Esgair Ddu ar dir a leolir 3 km i’r gogledd-ddwyrain o Gwmllinau, 3 km i’r de o Ddinas Mawddwy ac yn union i’r gogledd o Fferm Wynt weithredol Cemaes, yng ngogledd Powys.

Mae’r cynigion yn cynnwys hyd at 13 tyrbin gwynt gydag uchafswm uchder hyd at flaen y llafn o 230m. Mae paneli ffotofoltäig solar a thechnoleg system storio ynni batri hefyd yn cael eu hystyried yn y Parc Ynni, yn amodol ar gwblhau astudiaethau technegol ychwanegol.

Wedi’i leoli mewn ardal wledig iawn, â phoblogaeth wasgaredig, mae safle Parc Ynni Esgair Ddu yn elwa o adnodd gwynt rhagorol ac nid yw wedi’i leoli mewn unrhyw ardaloedd a ddynodwyd yn genedlaethol nac yn rhyngwladol. Defnyddir y safle ar hyn o bryd ar gyfer pori gweundir.

Gan y bydd gan Barc Ynni Esgair Ddu gapasiti o fwy na 10 MW mae’n cael ei ddosbarthu fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Cyflwynir y cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Bydd PEDW yn archwilio’r cais ac yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru, a fydd wedyn yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Er na fydd Cyngor Sir Powys yn penderfynu ar y cais cynllunio, mae’n ymgynghorai statudol allweddol a bydd yn paratoi Adroddiad Effaith Lleol.

TY disgwyl yw y bydd y cais cynllunio yn cael ei gyflwyno yn gynnar yn 2026.

Os caiff Parc Ynni Esgair Ddu ei gymeradwyo, gallai’r Parc Ynni gynhyrchu hyd at 91 megawat (MW) o ynni gwynt yn unig, digon i bweru hyd at 75,000 o gartrefi 1. Gallai hyn wrthbwyso tua 100,000 tunnell o allyriadau carbon deuocsid y flwyddyn, gan gynorthwyo i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chynorthwyo Cymru i gyrraedd ei tharged o allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050 2.

Bydd Parc Ynni Esgair Ddu yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth agos â’r gymuned leol, gydag ymgynghoriad helaeth ac eang a fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl leol gymryd rhan a chyfrannu at ddatblygiad y prosiect.

Cynnig Prosiect

Ynni adnewyddadwy – mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a darparu ynni cartref.

Mae’r cynnig ar gyfer Esgair Ddu wedi’i osod mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a ddatganodd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2019. Yn ogystal, bydd yn helpu i drosglwyddo i ffynonellau ynni adnewyddadwy a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Rydym am fynd i’r afael ymhellach â’r risgiau o orddibyniaeth ar danwydd ffosil wedi’i fewnforio, gyda chost gynyddol nwy ac olew yn sbarduno’r cynnydd enfawr mewn biliau ynni.
 
Dros y degawd nesaf, mae angen i Gymru gynyddu pedair gwaith ei chapasiti ynni gwynt—o ffynonellau ar y tir ac alltraeth. Bydd dyfodol ynni glân yn:
Gwynt ar y tir yw un o’r ffynonellau rhataf o gynhyrchu trydan o adeiladau newydd yn y DU, ac mae eisoes yn gwneud cyfraniad pwysig at y cymysgedd ynni adnewyddadwy.

Lleoliad y Safle…

Location Map

Ffeithiau a Ffigurau

Manyleb

Bydd y cysylltiad o Barc Ynni Esgair Ddu i’r Grid Cenedlaethol yn destun cais cynllunio ar wahân..

Amserlen Ddangosol

Sylwer: Gall y dyddiadau hyn newid.

  1. Arolygon ar y gweill

    Gwanwyn 2023 – parhaus

  2. Cais wedi ei gyflwyno i PEDW*

    Gaeaf 2024
  3. Ymgynghoriad cymunedol ar gynlluniau dangosol cyfnod cynnar o ddydd Mawrth 29 Hydref tan ddydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024.

    Hydref 2024

  4. Cynnal arolygon ac asesiadau ychwanegol a mireinio dyluniad cychwynnol y safle.

    Gwanwyn/Haf 2025
  5. Ar y cais cynllunio drafft a’r Datganiad Amgylcheddol.

    Hydref/Gaeaf 2025
  6. I Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).

    Gwanwyn 2026

  7. 2027

* Mae Cais Cwmpasu yn ceisio cael gan PEDW gwmpas a lefel yr wybodaeth y mae angen ei darparu yn y Datganiad Amgylcheddol.

Cynnig Cymunedol GALILEO empower

Mae GALILEO empower wedi ymrwymo i ddatblygu prosiectau sy’n cyflawni buddion sylweddol a diriaethol yn lleol ac yn meithrin perthnasoedd cymunedol cryf.

Bydd ein hymagwedd gyfrifol tuag at ddatblygu prosiectau yn sicrhau bod Parc Ynni Esgair Ddu yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy’n dda i’n cymdogion, yr amgylchedd cyfagos, a’r gymuned leol. Byddwn yn:

  • Archwilio cyfleoedd i gyflwyno sgiliau a swyddi gwyrdd yn yr ardal leol. Rydym yn awyddus i sicrhau, lle bynnag y bo modd, bod y gadwyn gyflenwi leol yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom ar gyfer y prosiect hwn.
  • Ymrwymo i gynnig cronfa cyfoeth cymunedol o £5,000 y MW (mynegrifol) y flwyddyn am oes weithredol Parc Ynni Esgair Ddu
  • Cefnogi targed Llywodraeth Cymru i 1.5GW o gynhyrchu ynni adnewyddadwy i gael perchenogaeth a rhan-berchenogaeth leol erbyn 2025 drwy gynnig opsiynau perchenogaeth ym Mharc Ynni Esgair Ddu o hyd at 10% – lle gellir defnyddio’r elw a gynhyrchir gan gyfran berchenogaeth er budd y gymuned.
  • Gwrando ar adborth cymunedol ar y cynigion a chefnogi mentrau lleol lle bo modd.

Rydym am glywed eich barn

Rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda’r gymuned leol i sicrhau dealltwriaeth o’r cynlluniau ar gyfer Parc Ynni Esgair Ddu, ac i alluogi mewnbwn i’r dyluniad o gyfnod cynnar.

Bydd ein hymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol yn rhedeg o 29 Hydref 2024 i 3 Rhagfyr 2024.

Rydym yn cynnal dau ddigwyddiad ymgynghori lle gallwch ddarganfod mwy am ein cynlluniau a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y prosiect i dîm y prosiect.

Dyddiadau digwyddiadau ymgynghori:

  • Dydd Iau 14 Tachwedd 2024 | 3pm – 7pm | Neuadd Bentref Cwmllinau, SY20 7NU
  • Dydd Gwener 15 Tachwedd 2024 | 10am – 2pm | Neuadd Bentref Dinas Mawddwy, SY20 9JA

Rydym yn bwriadu cynnal ymgysylltiad ychwanegol ar gamau diweddarach y prosiect cyn i ni gyflwyno ein cais cynllunio i PEDW.

Rhowch eich adborth

Gallwch roi eich adborth i ni yma, neu gallwch gwblhau ffurflen adborth bapur yn un o’n harddangosfeydd.

FFURFLEN

Rhagor o wybodaeth am y prosiect

Yma byddwch yn gallu dod o hyd i adnoddau y gellir eu lawrlwytho yn ymwneud â chynnig Parc Ynni Esgair Ddu. Gwiriwch am yr wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r prosiect ddatblygu.

CLICIWCH YMA I AGOR Y BYRDDAU YMGYNGHORI* Cylchlythyr yr Ymgynghoriad (Hydref 2024)

*byrddau ymgynghori diweddaru 13/11/24

Am GALILEO empower

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ddatblygu gan GALILEO empower, datblygwr, perchennog a gweithredwr ynni adnewyddadwy, amldechnoleg, traws-Ewropeaidd sy’n tyfu’n gyflym â gorchwyl i gyfrannu’n sylweddol at gyflawni targedau lleihau allyriadau byd-eang.

Ein nod yw gwneud hyn drwy ddatblygu digon o brosiectau ynni gwyrdd integredig, clyfar, effeithlon, o ansawdd uchel fel bod ynni adnewyddadwy yn dod yn brif ffynhonnell trydan i holl ddefnyddwyr ynni Ewrop. Mae gan GALILEO empower nifer o brosiectau yn cael eu datblygu, yng Nghymru a’r Alban.

Mae ein tîm prosiect yng Nghaerdydd wedi ymrwymo i ddatblygu prosiectau sy’n darparu buddion sylweddol a diriaethol yn lleol ac yn meithrin cysylltiadau cymunedol cryf. Mae Natural Power o Aberystwyth yn ein helpu i gynllunio a darparu Parc Ynni Esgair Ddu.

Mae ein huwch dîm rheoli yn cynnwys arbenigwyr ynni a buddsoddi blaenllaw sy’n dod â degawdau o brofiad rhyngwladol ar draws mwy na 30 marchnad.

Mae cyllidwyr GALILEO yn gronfeydd seilwaith tymor hir a phensiwn ag ôl troed byd-eang, meddylfryd rhyngwladol a ffordd gydweithredol o feddwl.

FFURFLEN

Megis dechrau y mae’r prosiect, felly mae eich adborth yn bwysig i ni er mwyn helpu i lunio ein cynigion.

Dyddiad cau ar gyfer adborth: Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024

Cysylltwch â ni:
E-bost: EsgairDdu@galileoenergy.uk
Ffôn: 01650 570 025
Post: Freepost GRASSHOPPER CONSULT

FFURFLEN

Cwestiynau Cyffredin

Mae polisi’r Llywodraeth, fel y’i nodir yn Cymru’r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040, yn darparu fframwaith polisi cadarnhaol ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Nid yw Ardaloedd Llywodraeth Cymru a Asewyd ymlaen llaw ar gyfer Ynni Gwynt fel y’u nodir yn Cymru’r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 o reidrwydd yn eithrio ardaloedd eraill ar gyfer datblygu ffermydd gwynt, ac nid ydynt ychwaith yn golygu bod pob ardal y tu allan i’r ardaloedd a aseswyd ymlaen llaw yn lleoedd amhriodol ar gyfer parc ynni.

Gosododd Llywodraeth Cymru dargedau ynni adnewyddadwy fel rhan o ymrwymiad i ddyfodol mwy cynaliadwy i Gymru. Y targed yw i Gymru gynhyrchu 100% o’i hanghenion trydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2035 er mwyn brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.  Mae patrymau gwynt yr ardal yn gryf a chyson felly mae hwn yn lleoliad da ar gyfer tyrbinau gwynt.  Mae’r ardal hefyd yn wledig ac yn denau ei phoblogaeth.

Byddwn yn cynnal asesiad effaith cronnol o Barc Ynni Esgair Ddu mewn perthynas â phrosiectau presennol, cymeradwy ac arfaethedig yn yr ardal. Bydd yr Arolygydd Cynllunio yn ystyried yr effaith gronnol bosibl.

Bydd ein Hasesiad Tirwedd ac Effaith Weledol yn ystyried effaith weledol bosibl y cynnig o wahanol ardaloedd a’r effaith ar amwynder gweledol eiddo preswyl. Mae ein cynigion ar gyfer tyrbinau gwynt hyd at 230 metr o uchder hyd at flaen y llafn. Mae defnyddio tyrbinau mwy yn golygu y gall pob tyrbin gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, sy’n lleihau nifer y tyrbinau sydd eu hangen ar gyfer yr un faint o ynni.

Bydd cydleoli batri (a elwir yn BESS yn gyffredin) ar y safle yn caniatáu i bŵer gael ei storio pan nad yw’r gwynt yn chwythu, neu pan nad yw’r haul yn tywynnu.

Mae’r batri yn storio’r ynni dros ben sy’n cael ei gynhyrchu yn ystod gwyntoedd cryfion neu ddiwrnodau heulog ac yna’n allforio yr ynni hwnnw a storiwyd yn ôl i’r grid pan fo cynhyrchiant yn isel a bod angen ynni.  Mae hefyd yn darparu ‘rôl gydbwyso’, gan helpu i sicrhau bod y grid yn aros yn sefydlog bob amser.

Bydd tyrbinau gwynt a phŵer solar gyda’i gilydd yn sicrhau bod Parc Ynni Esgair Ddu yn cynhyrchu mwy o ynni yn ystod mwy o oriau’r flwyddyn. Mae paneli solar a thyrbinau gwynt yn gweithio’n dda gyda’i gilydd ac mae adegau pan fydd ynni solar a gwynt ar eu gorau yn union gyferbyn â’i gilydd. Mae solar ar ei orau yn ystod oriau golau dydd yn yr haf. Yn y cyfamser, tyrbinau gwynt sy’n tueddu i gynhyrchu’r mwyaf o drydan yn ystod oriau’r nos yn y gaeaf.  Mae hyn yn gwneud tyrbin gwynt ynghyd â phaneli solar yn gyfuniad naturiol. Gall system ynni hybrid gydag ynni solar a gwynt gynhyrchu ffynhonnell gyson o drydan trwy gydol y flwyddyn, gyda chryfderau pob adnodd yn cydbwyso gwendidau’r llall. Wrth i’r hyn a gynhyrchir o un adnodd leihau bob dydd neu’n dymhorol, mae’r llall yn dechrau codi’r hyn sy’n ddiffygiol gan gynhyrchu.

Nid yw datblygiadau wedi’u gwahardd yn yr ardal, fodd bynnag bydd ein Hasesiad o’r Effaith ar y Dirwedd a Gweledol yn asesu golygfeydd posibl o’r parc cenedlaethol yn ofalus ac yn ystyried unrhyw effaith bosibl ar ei statws Awyr Dywyll Rhyngwladol. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ymgynghorai statudol.

Deellir yn iawn lefelau sŵn o dyrbinau. Bydd lefelau sŵn cefndir presennol yn cael eu mesur mewn lleoliadau o amgylch y safle. Byddai’r sŵn o’r Parc Ynni yn bodloni gofynion llym y canllawiau cenedlaethol a byddai o fewn y terfynau priodol a osodwyd. Bydd sŵn o’r gwaith adeiladu yn cael ei reoli drwy fesurau arfer da megis oriau gwaith sefydledig, rhaglenni rheoli sŵn ac amseroedd cyflawni.

Bydd amodau ar unrhyw allyriadau sŵn o’r cynnig yn cael eu gosod gan yr awdurdod cynllunio lleol drwy gydol y cyfnod adeiladu a gweithredu.

Byddai’r trydan a gynhyrchir yn mynd i’r Grid Cenedlaethol sy’n trawsyrru trydan ar draws y DU gyfan. Byddai trydan o’r prosiect yn debygol o gael ei ddosbarthu’n lleol, cyn mynd i aneddiadau mwy o faint ymhellach i ffwrdd.

Bydd y cysylltiad o Barc Ynni Esgair Ddu i’r Grid Cenedlaethol yn gais cynllunio ar wahân.

Sefydlwyd GALILEO empower yn 2020, ond roedd gan ein tîm hanes hir o lwyddiant eisoes wrth ddatblygu busnesau a phiblinellau ynni adnewyddadwy ledled y byd. Rydyn ni’n tyfu’n gyflym yn ddatblygwr, perchennog a gweithredwr ynni adnewyddadwy aml-dechnoleg aml-Ewropeaidd.  Mae Parc Ynni Esgair Ddu yn cael ei arwain gan ein tîm o Gaerdydd.   Mae GALILEO empower hefyd yn cyflogi arbenigwyr i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r parc ynni, megis Natural Power Consultants o Aberystwyth, sydd wedi rhoi caniatâd llwyddiannus i brosiectau ledled Cymru, gan gynnwys yr estyniad yng Ngharno, Powys.

Ariennir ein prosiectau gan bedwar buddsoddwr pensiwn a seilwaith hirdymor – Morrison and Co, Infratil, NZSuperfund a Chorfforaeth Blwydd-dal y Gymanwlad Llywodraeth Awstralia.

Mae GALILEO empower Wales wedi ei gofrestru yng Nghaerdydd a bydd yr holl drethi corfforaeth ac ati yn cael eu talu yn y DU.

 

Mae grymuso GALILEO empower wedi ymrwymo i hybu’r iaith a diwylliant Cymru. Bydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn iaith gyfartal â’r Saesneg ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid mewn perthynas â’r prosiect hwn. Bydd yr holl ddeunyddiau ymgynghori allweddol yn cael eu cynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd aelodau tîm prosiect iaith Gymraeg yn bresennol yn y ddau ddigwyddiad ymgynghori.

Mae rhai ardaloedd o’r safle yn dir Mynediad Agored, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy.  Mae nifer o Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC) hefyd yn croesi’r safle. Nod ein cynllun tyrbinau dangosol yw osgoi lleoli seilwaith yn agos at Hawliau Tramwy Cyhoeddus lle bo modd. Byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied ag y no modd ar ddefnyddwyr HTC. Cytunir ar unrhyw fesurau lliniaru ar gyfer Hawliau Tramwy Cyhoeddus â Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Sir Powys i sicrhau bod dargyfeiriadau addas neu rai newydd yn eu lle pe bai angen. Ni fydd unrhyw gyfyngiad i ddefnyddwyr HTC yn ystod y cyfnod gweithredu, ac efallai y bydd rhai cyfyngiadau yn eu lle yn ystod y cyfnodadeiladu, gan sicrhau diogelwch aelodau’r cyhoedd a’r staff adeiladu.

Nid oes tystiolaeth glir i gefnogi cydberthynas rhwng ffermydd gwynt ac effaith negyddol gyson ar brisiau tai.

Ni chanfu astudiaeth yn 2016 gan climateXchange ar effaith tyrbinau gwynt ar brisiau tai yn yr Alban1 unrhyw dystiolaeth o effaith negyddol gyson ar brisiau tai.

1 climateXchange. ‘Effaith tyrbinau gwynt ar brisiau tai yn yr Alban’ (2016)

Rydyn ni’n awyddus i archwilio’r potensial ar gyfer gostyngiad ar filiau ynni i’r rhai sydd agosaf at y Parc Ynni.

Bydd hwn ar agor i drigolion, busnesau ac adeiladau cymunedol yn yr ardal leol.  Bydd rhagor o fanylion ar gael wrth i gynigion ddatblygu.

Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i gynnwys cymunedau lleol ym mhob cam o’r prosiect, ac mae hyn yn cynnwys defnyddio cyflenwyr lleol yn ystod cyfnodau adeiladu a gweithredu’r prosiect. Bydd hyn yn cynyddu cyfleoedd i fusnesau lleol ddarparu nwyddau a gwasanaethau.

Byddai gan y Parc Ynni oes weithredol o hyd at 50 mlynedd. Ar hyn o bryd, gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o’r rhannau tyrbinau gwynt yn hawdd, oherwydd y ffaith mai dur yw ei brif gydran.

Mae’r dechnoleg a ddefnyddir yn parhau i ddatblygu a gwella. Felly, erbyn inni symud ymlaen i gaffael, mae’n debygol y bu datblygiadau pellach yn y dechnoleg ar gyfer ailgylchu.

Troednodiadau – yn gywir o 7 Hydref, 2024

1 Yn seiliedig ar ffactor llwyth ‘pob gwynt’ DESNZ, ar gael yma : https://www.gov.uk/government/statistics/renewable-sources-of-energy-chapter-6-digest-of-united-kingdom-energy-statistics-dukes

2 Yn seiliedig ar ystadegau DESNZ ar gyfer defnydd cyfartalog blynyddol aelwydydd Prydain Fawr : https://assets.publishing.service.gov.uk/media/65b12dfff2718c000dfb1c9b/subnational-electricity-and-gas-consumption-summary-report-2022.pdf

3 Catapwlt Systemau Ynni 2023, Gridiau Ynni’r Dyfodol Cymru (FEW) – Adroddiad Mewnwelediad Rhifyn 1.1: https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2023-07/future-energy-grids-for-wales-insights-report.pdf